Llawdriniaeth ailbennu rhyw
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Llawdriniaeth i newid golwg gorfforol a swyddogaethau nodweddion rhywiol er mwyn iddynt ymddangos a gweithredu fel rhai'r rhyw arall yw llawdriniaeth ailbennu rhyw neu lawdriniaeth ailbennu rhywedd.[1] Nod y fath driniaeth yw adlewyrchu hunaniaeth rhywedd yr unigolyn.
Bydd unigolyn trawsryweddol yn cael llawdriniaeth ailbennu rhyw fel rhan o'r broses ailbennu rhywedd neu drawsnewid, yn aml ar y cyd â thriniaethau meddygol eraill megis cwnsela, seicotherapi, a therapi hormonau. Gelwir triniaethau sydd yn newid nodweddion rhyw y frest drwy ychwanegu neu dynnu bronnau yn "llawdriniaeth uchaf", a thriniaethau sydd yn newid yr organau cenhedlu yn "llawdriniaeth isaf".[1]
Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn fenyw i fod yn ddyn gael mastectomi i dynnu'r bronnau, hysterectomi i dynnu'r groth, a salpingo-öofforectomi i dynnu'r tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau. Gallai gael naill ai mewnosodiad pidyn, ffaloplasti, neu metoidioplasti i gynhyrchu pidyn, a sgrotoplasti a mewnosodiad ceilliau i gynhyrchu'r ceillgwd a'r ceilliau. Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn ddyn i fod yn fenyw gael orcidectomi i dynnu'r ceilliau a penectomi i dynnu'r pidyn, faginoplasti i gynhyrchu gwain, fylfoplasti i gynhyrchu fylfa, clitoroplasti i gynhyrchu clitoris, mewnosodiad bronnau, a llawdriniaeth i fenyweiddio'r wyneb, hynny yw newid siâp y wyneb fel ei bod yn debycach i fenyw.[2]
Rhai o'r unigolion cyntaf i dderbyn llawdriniaeth ailbennu rhyw oedd Lili Elbe a Christine Jorgensen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Rhestr termau[dolen farw]", gwefan Dysfforia Rhywedd GIG Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) "Gender dysphoria Archifwyd 2011-10-17 yn y Peiriant Wayback", Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.